Arian wedi’i wneud yng Nghymru
Oeddech chi’n gwybod bod darnau arian y DU i gyd yn cael eu gwneud yma yng Nghymru? Mae’r Bathdy Brenhinol wedi’i leoli yn Llantrisant, yn ne ddwyrain Cymru. Ac nid darnau arian ar gyfer y DU yn unig sy’n cael eu gwneud yno ‘chwaith. Mae’n enwog ledled y byd am y traddodiad hir o grefftwaith ac ansawdd uchel y darnau arian sy’n cael eu creu yno. Mewn gwirionedd, dyma’r bathdy mwyaf blaenllaw yn y byd o safbwynt allforio, gan greu darnau arian ar gyfer dros 60 o wledydd ar draws y byd.


Fel sefydliad, mae’r Bathdy Brenhinol yn dyddio’n ôl dros 1000 o flynyddoedd ond agorwyd y safle presennol yn Llantrisant gan Ei Mawrhydi y Frenhines yn 1968. Mae tua 900 o bobl yn cael eu cyflogi yno ac mewn blwyddyn, bydd cymaint â phum biliwn o ddarnau arian yn cael eu cynhyrchu yno. Mae hynna’n swm enfawr o arian! Mae’r Bathdy Brenhinol hefyd yn creu medalau - gan gynnwys y rhai a gyflwynwyd yn y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012.
Costau byw yng Nghymru
O’i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig (DU), mae costau byw yma yng Nghymru yn isel. Mae cyfradd helaeth o’r boblogaeth yn mwynhau safon byw uchel. Gyda chymaint o ardaloedd gwledig ac ardaloedd arfordirol braf, fe welir bod nifer cynyddol o bobl yn symud i Gymru i chwilio am well cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 24 Ionawr 2019Mae’r costau wythnosol o ran bwyd, teithio ac adloniant yn tueddu i fod tua 15% yn is ar gyfartaledd yng Nghymru na gweddill y Deyrnas Unedig."
Wrth gwrs, mae costau byw yng Nghymru yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw a faint rydych chi’n ei ennill. Mae cyflogau’n cymharu’n dda gyda’r cyflogau mewn sawl rhan o’r DU y tu hwnt i ddinasoedd mawr fel Llundain, Caeredin a Manceinion. Ar y cyfan, mae pobl yma’n ennill tua 11% yn llai na chyfartaledd y DU, ond tuedda’r costau wythnosol cyfartalog yng Nghymru ar gyfer pethau fel bwyd, teithio ac adloniant fod tua 15% yn is na gweddill y DU. Mae cost eiddo, sef gwariant misol mwyaf pobl fel arfer, yn sylweddol is yma hefyd. Fel arfer, byddwch yn talu 35% yn llai ar gyfartaledd am eiddo yng Nghymru o’i gymharu â gweddill y DU.

Profiad y Bathdy Brenhinol
Profiad y Bathdy Brenhinol yw un o’r atyniadau twristaidd mwyaf poblogaidd yn ne Nghymru. Mae ar agor pob dydd ar gyfer gweld yr arddangosfeydd sy’n edrych ar hanes y Bathdy Brenhinol a’r modd y mae darnau arian yn cael eu dylunio, eu gwneud a’u cadw’n ddiogel rhag cael eu dwyn. Cewch gyfle hefyd i weld darnau arian hynod brin a gwerthfawr a medalau o wahanol gyfnodau.
Am fanylion pellach ynglŷn â’r hyn y gellwch ei brofi yn ystod eich ymweliad â Phrofiad y Bathdy Brenhinol ewch i wefan Croeso Cymru.


Arian a bancio
Fel gweddill y Deyrnas Unedig, rydym yn defnyddio punnoedd sterling (£) yng Nghymru. Mae 100 ceiniog (c) i’r bunt (£). Ceir arian papur gwerth £5, £10, £20 a £50. Ceir darnau arian gwerth 1c, 2c, 5c, 10c, 20c, 50c, £1 a £2.
Mewn trefi a dinasoedd mwy mae bron pobman yn derbyn cardiau credyd a debyd. O’r siopau adrannol mwyaf i’r boutiques annibynnol, o’r bwytai i’r caffis lleol, mae talu â cherdyn yn hawdd a hwylus gan gynnwys talu digyswllt. Mae peiriannau arian parod sy’n derbyn cardiau credyd a debyd rhyngwladol hefyd ar gael ar gyfer codi arian.


