Main Content

 

Cymru fydd y genedl y rhoddir sylw iddi yng Ngŵyl Bywyd Gwerin y Smithsonian 2009 ar y Rhodfa Genedlaethol yn Washington o 24-28 Mehefin ac 1 – 5 Gorffennaf.

Gŵyl ddiwylliannol flynyddol yw hon a gynhelir gan Ganolfan y Smithsonian dros Fywyd Gwerin a Threftadaeth Ddiwylliannol, un o unedau ymchwil ac addysgol Sefydliad Smithsonian. Mae’r ŵyl yn dathlu traddodiadau diwylliannol cymunedau o bob rhan o’r Unol Daleithiau ac o bob rhan o’r byd.

Bydd dros 130 o bobl yn cynrychioli Cymru yn y digwyddiad, ar arwynebedd o faint pedwar llain pêl-droed. Fe’u rhennir i ardaloedd o dan themâu gwahanol, gyda phob un yn dweud stori wahanol:

  • Iaith, Llenyddiaeth, Animeiddio
  • Diwydiant, Treftadaeth Ac Arloesedd
  • Ar Hyd Y Dŵr
  • Adeiladau A Thirluniau
  • Cartref A Chymuned
  • Cerddoriaeth A Dawns
  • Cymru A’r Byd
  • Ecodwristiaeth A Diddordebau

Bydd llwyfan naratif hefyd, llwyfan ‘tafarn’ a phrif lwyfan.

 

Wales Smithsonian Cymru 2009

 

1.05 miliwn o ymwelwyr wedi ymweld â’r Ŵyl yn ystod y deng niwrnod – y nifer uchaf ers 2003 o ymwelwyr wedi ymweld â’r Ŵyl yn ystod y deng niwrnod – y nifer uchaf ers 2003

 

Dywedodd 75% o’r ymwelwyr efallai yr hoffent ymweld â Chymru neu y byddent yn ystyried ymweld â’r wlad o ganlyniad i’r Ŵyl.