|
Ifor ap Glyn
Bardd
Magwyd Ap Glyn yn y gymuned Gymraeg yn Llundain, man y mae ei deulu wedi ei alw yn gartref am dros gan mlynedd. Mae ef a’i deulu bellach yn byw yng Nghaernarfon lle mae’n gweithio fel cynhyrchydd teledu. Ym 1999, cyfansoddodd y gerdd a enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn 2008-2009 cafodd yr anrhydedd o wasanaethu fel Bardd Plant Cymru.
www.academi.org/list-of-writers/i/129525/ |
 |
|
Gwyneth Glyn
Ysgrifennwr a cherddor
Mae Gwyneth Glyn yn gantores a chyfansoddwraig Gymraeg frodorol, yn fardd ac yn ysgrifennwr. Ar ôl graddio mewn Athroniaeth a Diwinyddiaeth o Brifysgol Rhydychen, dychwelodd adref i Gymru. Caiff ei hysbrydoli gan y tirlun y mae mor hoff ohono, y dreftadaeth werin Gymraeg a’i heiconau gwledig Americanaidd, Gillian Welch a Gram Parsons. Gyda’i gitâr, mae’n dathlu priodas unigryw rhwng y ddau draddodiad mawr hyn.
www.myspace.com/gwynethglyn http://www.myspace.com/gwynethglyn
|
 |
|
Gillian Clarke
Bardd
Clarke ar hyn o bryd yw Bardd Cenedlaethol Cymru. Mae’n fardd, ysgrifennwr, dramodydd, cyfieithydd a thiwtor mewn Ysgrifennu Creadigol. Mae ei barddoniaeth o ran arddull a deunydd yn adlewyrchu’r diwylliant a’r traddodiadau Cymreig yn ogystal â’r byd ehangach. Mae ei gwaith diweddar a gyhoeddwyd gan Carcanet Press, yn cynnwys At the Source, casgliad o ysgrifau a dyddlyfr a A Recipe for Water, ei nawfed casgliad o gerddi.
www.academi.org/list-of-writers/i/129555/ |
 |
|
Aneirin Karadog
Bardd / Rapiwr
Ganwyd Aneirin Karadog yng Ngogledd Cymru ac fe’i magwyd yng nghymoedd De Cymru. Mae’n ysgrifennu barddoniaeth mewn Cynghanedd ac yn rapio gyda nifer o grwpiau hip-hop. Mae Aneirin yn gyflwynydd ar y rhaglen deledu Gymraeg ddyddiol Wedi 7 a sefydlodd y rhaglen Gymraeg gyntaf ar y rhyngrwyd o’r enw Siaradog.
www.academi.org/list-of-writers/i/131877/ |
 |
|
Daniel Morden
Storïwr
Mae Morden wedi adrodd storïau traddodiadol i ennill ei fywoliaeth er 1989. Mae ei waith wedi mynd ag ef dros y byd i gyd, o’r Arctig i’r Môr Tawel ac mae’n perfformio’n rheolaidd yn y Theatr Genedlaethol, Canolfan Barbican a gwyliau llenyddiaeth mawr ym Mhrydain. Yn 2007, enillodd ei lyfr Dark Tales from the Woods Wobr Tir Na Nog.
www.academi.org/list-of-writers/i/129751/ |
 |
David Ambrose
Storiwr
www.academi.org/list-of-writers/i/130296/ |
 |
|
Esyllt Harker
Storïwraig
Mae Harker yn gantores ac yn storïwraig amrywiol. Mae’n tynnu’n bennaf ar ei gwreiddiau Cymreig cryf ac mae’n enwog am y ffordd mae’n plethu’r Gymraeg a’r Saesneg a deunydd llafar a deunydd sy’n cael ei ganu yn rhwydd i’w gilydd. Mae hi wedi perfformio yn aml yng Ngŵyl Dweud Storïau Rhyngwladol Beyond the Border ac mewn nifer o ganolfannau gan gynnwys theatrau, ysgolion, cestyll ac ar ben clogwyni.
www.academi.org/list-of-writers/i/129677/ |
 |
|
Mab Jones
Bardd perfformio
Enillydd Gwobr Cynulleidfa John Tripp am Farddoniaeth Lafar, mae Jones yn fardd perfformio sy’n meddu ar ffraethineb dychanol. Cyrhaeddodd y rownd gynderfynol yng nghystadlaethau Cenedlaethol ‘Slam and Funny Women’ Radio 4 ac mae wedi perfformio gyda beirdd a chomedïwyr enwog. Gweithiodd am gyfnod mewn gwyliau comedi yng Nghaeredin a Chaerlŷr a gweithiodd fel ysgrifennwr gydag Opera Cenedlaethol Cymru. |
 |
|
Jon Gower
Awdur / darlledwr
Mae Gower wedi gweithio fel newyddiadurwr a lluniwr rhaglenni dogfen am chwarter canrif ac ef oedd gohebydd celfyddydau a’r cyfryngau cyntaf BBC Wales. Mae wedi ysgrifennu neu olygu deg o lyfrau, gan gynnwys disgrifiad o ynys oedd yn diflannu ym Mae Chesapeake. Mae newydd gyhoeddi ei nofel Gymraeg gyntaf sy’n cysylltu Buenos Aires, Oakland a Chaerdydd.
www.academi.org/list-of-writers/i/133914/ |
 |
|
Ceri Wyn Jones
Bardd
Enillodd Jones wobr barddoniaeth bwysicaf Cymru, y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1997. Cafodd ei gasgliad cyntaf, Dauwynebog, ei roi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru 2008 ac astudir ei farddoniaeth trwy Gymru. O 2003-04 cafodd Ceri yr anrhydedd o wasanaethu fel Bardd Plant Cymru ac mae’n parhau i gynnal gweithdai barddoniaeth ym mhob rhan o’r wlad. |
|
|
Clare Potter
Bardd perfformio/ysgrifennwr
Mae Clare Potter yn fardd perfformio / ysgrifennwr a fagwyd yn y Coed Duon, De Cymru. Graddiodd o Brifysgol De Mississippi gydag MA mewn llenyddiaeth Affro-Caribïaidd. Yna symudodd i New Orleans, lle roedd yn ymgynghorydd ar gyfer Prosiect Ysgrifennu New Orleans. Ar ôl dychwelyd i Gymru ar ôl deng mlynedd, enillodd Clare Wobr John Tripp 2004 am Farddoniaeth Lafar a chyhoeddwyd ei chasgliad spilling histories (Cinnamon, 2006). Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Clare wedi bod yn ymwneud â phrosiectau cydweithredol gydag ysgrifenwyr, cerddorion ac artistiaid eraill. |
 |
|
Gerald Conn
Animeiddiwr
Arbenigwr mewn animeiddio sain. Mae Conn yn enwog yn ei faes. Mae wedi cynhyrchu ffilmiau sydd wedi ennill gwobrau, gyda llawer ohonynt yn ymchwilio i ryng-gysylltiadau diwylliannol. Mae’n dysgu animeiddio i fyfyrwyr ar bob lefel ac mae wedi cyflwyno ei waith yn Ffrainc, India a Japan. Roedd Conn yn allweddol wrth sefydlu Cinetig, cwmni cynhyrchu sy’n rhoi cyfle i ieuenctid gymryd rhan yn y broses o gynhyrchu ffilmiau.
|
 |
|
Sean Harris
Animeiddiwr
Ganwyd Harris yn Lloegr a symudodd i Gymru ym 1995. Gweithiai fel gwneuthurwr printiau ond newidiodd ei gyfeiriad yn 2005 pan ddechreuodd dorri ac animeiddio ei brintiadau wedi eu gwneud â llaw, ac ers hynny mae wedi gwneud cyfres o ffilmiau yn ymchwilio i fytholeg ac archaeoleg, gan roi sylw i arteffactau cyn-hanesyddol o gasgliadau Amgueddfeydd Cenedlaethol Iwerddon, yr Alban a Chymru. |
|
|
David Vickers
Prif Argraffydd
Mae Vickers yn Rheolwr Gwasg Gregynog, sefydliad elusennol sy’n ceisio gwarchod traddodiadau cyfoethog Cymru yn y Celfyddydau Llyfrau a chynnal Gwasg Gregynog, a sefydlwyd ym 1922. Mae’n grefftwr profiadol ac yn siarad Cymraeg yn rhugl. Ymunodd â’r Wasg pan gafodd ei hailsefydlu ym 1978, ac mae wedi bod yn ymwneud â phob agwedd o gynhyrchu ei llyfrau ers hynny.
http://www.gregynogpress.co.uk/ |
 |
|
Julian Thomas
Rhwymwr Llyfrau
Er 1980, mae Thomas wedi gweithio fel Pennaeth yr Adran Cadwraeth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Fe’i comisiynir hefyd i weithio ar rwymiadau cain a phrosiectau sy’n ymwneud â chadwraeth llyfrau yn ei weithdy yn ei gartref. Ym 1996, fe’i hetholwyd yn Gymrawd y Rhwymwyr Llyfrau Artistig. Mae Thomas yn aelod o Gymdeithas y Rhwymwyr Llyfrau a’r Sefydliad Cadwraeth Papur. |
 |
|
Sharon Morgan
Actores / Storïwraig
Mae Morgan wedi bod yn bresenoldeb cyfarwydd ar y llwyfan, y sgrin a’r radio am bron i ddeugain mlynedd, gan berfformio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ym 1998, enillodd Wobr Actores Orau BAFTA. Mae’n awdur trioleg ar hunaniaeth merched ac enillodd ei chyfieithiad o The Vagina Monologues wobr y Cynhyrchiad Gorau gan Theatr Wales yn 2004. |
|
|
Iona Hughes
Tiwtor Cymraeg
Treuliodd Hughes 10 mlynedd yn addysgu mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg lle bu hefyd yn ymchwilio i Sikhiaeth a Bwdhaeth. Mae ei phrofiadau yn Laos yn teithio ac yn cymryd rhan mewn cymrodoriaeth wedi ei helpu i ddod â chrefydd yn fyw yn yr ystafell ddosbarth. Mae bellach yn gweithio ym Mhrifysgolion Morgannwg a Chaerdydd fel Tiwtor Cymraeg i oedolion. |
|