Main Content

Cymru a’r Byd

Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Achyddiaeth Cymru
Bydd Catherine Tudor Jones yn rhoi cyngor a chymorth i Americaniaid o darddiad Cymreig yn yr ŵyl. Er bod y cyfenw Jones yn aml yn cael ei ystyried yn rhywbeth sy’n perthyn i Gymru yn unig, dyma hefyd y pedwerydd cyfenw mwyaf cyffredin yn yr Unol Daleithiau sy’n awgrymu bod gan ganran uchel o Americaniaid wreiddiau Cymreig. Bydd Cyril Evans yn ymuno â hi, sydd wedi cael profiad sylweddol o wneud gwaith ymchwil ar achyddiaeth Cymru ac adnoddau; a Beryl Evans, Cydgysylltydd Hanes Teuluol sy’n gweithio gydag unigolion, cymunedau a chymdeithasau hanes teulu yng Nghymru yn ogystal â Lloegr i hyrwyddo adnoddau a gwybodaeth yn ymwneud â hanes teuluol a hanes lleol.

Cymru Ohio
Mae Menna Morgan yn gydgysylltydd gwaith ar Brosiect Cymru - Ohio. Mae gwefan y prosiect yn croniclo hanes a phrofiadau’r setlwyr Cymreig yn Ohio yn y 18fed ganrif ac yn dangos delweddau o lythyrau ymfudwyr, dyddlyfrau, cofrestrau, ffotograffau a deunyddiau printiedig yr ymfudwyr. Yn ystod haf 2008, ymwelodd ag Ohio i ddigideiddio mwy o ddeunyddiau ar gyfer y safle.
http://www.llgc.org.uk/ & http://www.ohio.llgc.org.uk/

Carlos Pinatti
Artist Gweledol
Mae gwaith Pinatti yn cynnwys prosiectau sy’n datblygu o brofiad uniongyrchol o le neu mewn ymateb i unigolyn neu gymuned. Mae ei brosiectau yn cynnwys defnyddio ffilm a chyfryngau cyfun ac fe’u cyflwynir fel cyfuniad o fideo, gosodiad a cherflunwaith. Mae ei waith diweddar yn ymchwilio i’r berthynas rhwng y gymuned Gymraeg ym Mhatagonia ac Indiaid y Tehuelches o’r rhanbarth hwnnw.

Walter Brooks 
Tiwtor iaith, ymchwilydd - Cymdeithas Cymru-Ariannin
Mae Brooks sy’n dod o Batagonia ac o darddiad Cymreig, ac sy’n byw yng Nghymru, yn gweithio yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Cymru yn addysgu Cymraeg i oedolion ac i israddedigion ac yn gwneud gwaith ymchwil am y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Er 2007 mae wedi bod yn gweithredu fel pont i hyrwyddo’r cysylltiadau diwylliannol rhwng Patagonia a Chymru. Mae hefyd yn aelod gweithredol o Gymdeithas Cymru-Ariannin. 

Carwyn Evans
Artist Gweledol
www.carwynevans.com