Main Content

Cerddoriaeth a Dawns

The Hennessys
Grŵp cerddoriaeth werin draddodiadol
www.myspace.com/thehennessyscardiff

Parti Cut Lloi
Côr
www.particutlloi.co.uk

Only Men Aloud
Côr
www.onlymenaloud.com

Linda Griffiths & Lisa Healy
Cantorion

 

 

 

 

 

 

 

Sild
Mae Martin Leamon wedi bod ar flaen sîn gerddoriaeth draddodiadol De Cymru am bron i bymtheg mlynedd. Gan chwarae mewn nifer o fandiau dylanwadol fel offerynnwr sy’n trin nifer o wahanol offerynnau mae wedi bod yn holl bwysig i barhad datblygiad cerddoriaeth draddodiadol Cymru. Mae’n canu’r gitâr yn y ddeuawd SILD gyda Sille Ilves. Ymfudodd Ilves o Estonia i Dde Cymru yn 2003 ac mae wedi sefydlu ei hun yn bendant yng nghanol y sîn gerddoriaeth draddodiadol. Mae’n canu’r ffidl, y lyra fwa, yr hyrdi gyrdi ac yn canu yn y Gymraeg, y Saesneg a’r Estoneg! Mae SILD wedi rhyddhau dau albwm.
www.sildmusic.com

Siân James
Cantores, telynores ac arweinydd Parti Cut Lloi James yw un o gantorion traddodiadol a modern enwocaf Cymru. Mae wedi rhyddhau 8 albwm o’i gwaith, gyda phob albwm yn cyflwyno cymysgedd unigryw o gerddi traddodiadol a gwreiddiol. Mae James wedi teithio yn helaeth am flynyddoedd lawer, gan berfformio mewn gwledydd fel Japan a’r Unol Daleithiau yn ogystal ag ym mhob rhan o Ewrop.
www.sianjames.co.uk

Crasdant
Mae Crasdant yn cymysgu telyn draddodiadol Cymru, y delyn deires unigryw, gyda ffliwtiau, ffidil, acordion, y gitâr a’r offeryn Cymreig, y pibgorn. Ychwanegir sbeis arbennig at y gymysgedd gyda dawnsio stepio pencampwr o glocsiwr.
www.crasdant.com
www.teires.com

Christine Cooper
Ffidlwr ac adroddwr storïau
Treuliodd Cooper nifer o flynyddoedd yn teithio’r byd gyda’i ffidl ar ei chefn, ond Cymru fydd ei chartref cerddorol bob amser. Mae’n ffidlwr ac yn storïwr sydd wedi ennill gwobrau lu ac mae’n defnyddio dolennau byw a llais i chwythu ymaith yr haen denau o lwch sydd wedi setlo ar yr hen ganeuon gwerin, gan dynnu’r gwrandäwr i mewn i fyd o harddwch bregus.
www.myspace.com/christinecoopermusic

Catrin and Ceri Ashton
Ffidlwr a Ffliwtydd
Magwyd y chwiorydd Catrin a Ceri Ashton yng Nghonwy a datblygodd y ddwy ddiddordeb mewn cerddoriaeth draddodiadol Gymreig drwy chwarae i grŵp dawns lleol. Maent yn canu’r ffidl a’r ffliwt a hefyd yn canu mewn harmoni ac yn ysgrifennu rhywfaint o’u deunydd eu hunain. Maent wedi ymrwymo hefyd i gynaliadwyedd: Mae Ceri yn fegan ac astudiodd Gadwraeth ym Mhrifysgol Bangor.

Opera Cenedlaethol Cymru MAX

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn un o gwmnïau opera teithiol gorau’r byd gyda chwmni parhaol o 250 o bobl.

www.wno.org.uk

Ceri Rhys Matthews
Pibydd a Ffliwtydd

Gareth Bonello
Canwr ac ysgrifennydd caneuon
Mae Bonello, sy’n cael ei adnabod hefyd fel ‘The Gentle Good’, yn perfformio caneuon gwerin traddodiadol a gwreiddiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae ei gerddoriaeth yn gyfuniad o’r hen a’r newydd a gyflenwir drwy eiriau tyner a phlycian hyderus ar y gitâr. Mae wedi perfformio yn genedlaethol ac yn rhyngwladol mewn gwyliau fel Glastonbury a South by Southwest ac wedi rhyddhau dwy record: Dawel Disgyn a While you slept I went out walking.

www.myspace.com/gentlegood

Gai Toms
Canwr ac ysgrifennwr caneuon
www.gaitoms.com
www.myspace.com/gaitoms

Mark O’Connor
Chwaraewr gitâr fas

Chris O’Connor
Drymiwr

Wyn Pearson
Gitarydd
www.wynpearson.co.uk

John Evans
Gwneuthurwr offerynnau
Ar ôl gadael ysgol yn bymtheg oed, cwblhaodd Evans ei brentisiaeth fel saer a datblygodd ddiddordeb brwd mewn turnio coed a cherfio, yn arbennig llwyau caru Cymreig. Ar ôl bod mewn damwain ddifrifol ym 1993 ac ailedrych ar ei fywyd, aeth ati i gyfuno ei wybodaeth am weithio gyda choed a’i gefndir teuluol mewn cerddoriaeth i wneud offerynnau traddodiadol Cymreig.

Gwyneth Glyn
Ysgrifennwr a cherddor
Mae Gwyneth Glyn yn gantores a chyfansoddwraig Gymraeg frodorol, yn fardd ac yn ysgrifennwr. Ar ôl graddio mewn Athroniaeth a Diwinyddiaeth o Brifysgol Rhydychen, dychwelodd adref i Gymru. Caiff ei hysbrydoli gan ei thirlun, treftadaeth werin Gymreig a’i heiconau gwledig Americanaidd, Gillian Welch a Gram Parsons. Gyda’i gitâr, mae’n dathlu priodas unigryw rhwng y ddau draddodiad mawr hyn.
www.myspace.com/gwynethglyn

Aneirin Karadog
Bardd / Rapiwr
Ganwyd Aneirin Karadog yng Ngogledd Cymru ac fe’i magwyd yng nghymoedd De Cymru. Mae’n ysgrifennu barddoniaeth mewn Cynghanedd ac yn rapio gyda nifer o grwpiau hip-hop. Mae Aneirin yn gyflwynydd ar y rhaglen deledu Gymraeg ddyddiol Wedi 7 a sefydlodd y rhaglen Gymraeg gyntaf ar y rhyngrwyd o’r enw Siaradog.
www.academi.org/list-of-writers/i/131877/

 

Bryan Blackmore
Gwneuthurwr offerynnau
Mae Blackmore wedi bod yn gweithio fel gwneuthurwr telynau proffesiynol ers 1975. Mae gan ei delynau, sy’n amrywio mewn maint o’r delyn pen-glin Telyneg gyda 22 o dannau hyd at y delyn deires Cleddau gyda 97 o dannau, i gyd ddyluniad Cymreig traddodiadol. Mae Blackmore yn gwneud pob un o’r telynau â llaw, gan ddefnyddio’r deunyddiau gorau i fodloni anghenion unigryw pob cwsmer.
www.welshharps.co.uk

Trefor Owen
Gwneuthurwr clocsiau
Gan ddefnyddio teclynnau a dulliau traddodiadol, yn hytrach na bod yn arddangosydd mewn amgueddfa neu yn wneuthurwr peiriannau, Owen yw’r olaf o wneuthurwyr clocsiau â llaw traddodiadol Prydain sy’n gweithio’n broffesiynol yn amser llawn. Symudodd yn ddiweddar yn ôl i Gymru ar ôl dechrau gwneud clocsiau dros 31 o flynyddoedd yn ôl yn Swydd Efrog. Mae Owen yn cyflenwi dros 300 o barau o glocsiau bob blwyddyn. .