Main Content

Cartrefi a’r Gymuned

Kristina Patmore
Ymgynghorydd meddyginiaethol a phlanhigion defnyddiol
Mae Patmore yn arddwraig sy’n frwd ynglŷn ag ymchwilio i blanhigion meddyginiaethol ac arddangos sut y maent yn adnodd gwych i ofalu am yr iechyd. Mae hefyd yn mwynhau arbrofi gyda byw a bwyta yn gynaliadwy. Am bum mlynedd, gweithiodd Patmore yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac roedd yn ymwneud â phob agwedd ar yr ardd a’r arddangosfa “Meddyginiaeth Werdd”.

Alison Nash
Biocemegydd
Mae Nash yn fiocemegydd ymchwil a ddechreuodd ei gyrfa yng Ngardd Fotaneg Frenhinol Kew lle ymchwiliodd i sut y gellir defnyddio rhannau o blanhigion mewn meddyginiaeth. Mae wedi cyhoeddi gweithiau ar feddyginiaeth naturiol, ac mae ei gwaith gydag ymchwil planhigion yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi tynnu sylw gohebwyr radio, teledu a phapurau newydd.

Gareth Evans
Ysgrifennydd ac ymchwilydd i blanhigion a meddyginiaeth
Mae Evans wedi bod yn ymchwilio i ac yn ysgrifennu am hanes planhigion mewn meddyginiaeth am 16 o flynyddoedd. Mae’n mwynhau cyflwyno pobl i draddodiadau unigryw meddyginiaeth Cymru; y traddodiad llysieuol a oedd yn rhan bwysig o ddiwylliant Cymru, a hefyd Meddygon Myddfai a’r gwaith a ysgrifennwyd ganddynt. Mae Gareth yn arwain teithiau yn ‘Meddyginiaethau ym Mai: Gŵyl Planhigion, Iechyd a Lles.

Angela Gray
Cogydd
Mae Gray yn ysgrifennu am fwyd, ac yn gyflwynydd teledu a radio ac yn gyfarwyddwr cwrs yn Ysgol Bwyd Gwinllan Llanerch. Fe’i magwyd yn Ne Cymru ac mae ganddi atgofion melys am flynyddoedd cynnar ym Mhorthcawl a Chaerffili lle roedd ei theulu yn cynnal llaethdy. Heddiw, mae’n treulio ei hamser yn ysgrifennu, yn coginio ar y teledu, yn addysgu ac yn gweithio ar brosiectau sy’n gysylltiedig â bwyd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru.
www.foodinfocus.com/contact_us.cfm  

Hazel Thomas
Cogydd
Mae Thomas yn gogydd cymwysedig sy’n teimlo’n angerddol ynglŷn â hyrwyddo bwyd ac “ymwybyddiaeth am fwyd” Cymru. Mae’n aelod sylfaenol o Ŵyl Bwyd Llanbedr Pont Steffan a ddechreuodd ym 1998 i ddathlu cynhyrchion organig a lleol yng Ngheredigion. Mae ei diddordeb mewn bwyd yn deillio o’i phlentyndod ar fferm yn darganfod sut mae bwyd yn teithio o’r cae i’r plât.

Anthony Evans
Cogydd
Mae Evans yn gogydd cymwysedig sy’n cyflwyno ei raglen coginio ei hun ar deledu Cymru, a anelir at y genhedlaeth iau. Roedd Evans yn heliwr pan oedd yn ifanc, ac mae’n hynod wybodus ynglŷn â’r sbort ac yn frwdfrydig iawn yn ei gylch. Mae hefyd yn bysgotwr brwd ac mae wedi teithio’n helaeth gan chwilio am gyfleoedd i bysgota o amgylch y byd.

Ana Rees 
Cogydd – Patagonia
Mae Rees yn cynnal yr Ystafell De Gymreig yn Gaiman a sefydlwyd gan ei hen nain 65 o flynyddoedd yn ôl. Yn ddiweddar enillodd Rees y wobr gyntaf yng Ngŵyl Amaethyddiaeth Flynyddol Chubut gyda’r Gacen Ddu Gymreig, y crwst mwyaf traddodiadol ym Mhatagonia. Wrth fyw mewn cymuned Gymraeg, mae wedi dysgu sut i siarad Cymraeg ac mae wedi dechrau addysgu’r iaith i oedolion eraill. 

Geraldine Griffith
Cogydd
Merch i fam oedd yn Gymraes o hil gymysg gyda thad o India’r Gorllewin, ganwyd a magwyd Griffiths yn Tiger Bay. Astudiodd yn y Coleg Technoleg Bwyd, enillodd ychydig flynyddoedd o brofiad ac yna mudodd i Barbados lle bu’n datblygu ei masnach. Ar ôl dychwelyd i’r Bae, datblygodd gwrs i ysbrydoli eraill i roi enaid yn ôl yn y gegin.

Gareth Johns
Cogydd
Johns yw Cogydd a chydberchennog, gyda’i frawd Paul, Gwesty’r Wynnstay, gwesty hanesyddol o’r 18fed ganrif lle’r arferai’r goets fawr aros. Mae’n un o ychydig o Brif Gogyddion Ardystiedig sy’n gweithio’r tu allan i Lundain, ac mae’n gredwr mawr mewn cynnal traddodiadau bwyd Cymreig. Mae Johns hefyd yn addysgwr brwd ac yn teimlo bod: ‘Gwybodaeth na chaiff ei rhannu yn cael ei gwastraffu’.
www.wynnstay-hotel.com  

Cynnal Cymru/Sustain Wales
Helen Nelson yw Cyfarwyddwr Gweithredol Cynnal Cymru (fforwm datblygu cynaliadwy Cymru). Yn flaenorol, astudiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth, gweithiodd gyda datblygu cymunedau gwledig a gwasanaethodd fel Cydgysylltydd Ymlaen Ceredigion. Mae Nelson yn frwd o blaid datblygiad cynaliadwy ac yn cyflwyno newid drwy raglenni ymarferol, ymgyrchoedd i ymgysylltu â’r cyhoedd a pholisi cyhoeddus.
http://www.cynnalcymru.com/

Mary Lloyd Jones
Artist gweledol
Mae Lloyd Jones yn artist Cymreig sydd wedi dod i fri rhyngwladol. Mae ei gwaith yn adlewyrchu ei hunaniaeth, ei pherthynas gyda’r tir, ymwybyddiaeth o hanes a thrysor traddodiadau llenyddol a llafar Cymru. Yn 2008, dyfarnwyd Gradd Anrhydedd Doethur Prifysgol Cymru iddi. http://www.marylloydjones.co.uk/

Lowri Davies
Mae Davies yn artist ceramig sy’n gweithio yn stiwdios Fireworks Clay yng Nghaerdydd. Ar ôl graddio o Ysgol Gelf Caerdydd yn 2001, dyfarnwyd grant Cyngor Celfyddydau Cymru iddi ac enillodd Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn ddiweddar cwblhaodd Radd Meistr mewn Dylunio Ceramig ym Mhrifysgol Swydd Stafford. Ysbrydolir gwaith Lowri gan ei threftadaeth Gymreig.
http://www.lowridavies.com/

Ewenny Pottery
Mae Caitlin Jenkins yn grochenydd sy’n perthyn i’r wythfed genhedlaeth o grochenwyr. Hyfforddwyd hi yng Nghrochendy Ewenni, De Cymru gan ei thad Alun Jenkins. Astudiodd yn Athrofa Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd a’r Coleg Celf Brenhinol yn Llundain. Mae’n gweithio gyda’i thad ar y crochenwaith gan barhau â’r traddodiad o wneud crochenwaith â llaw i’w ddefnyddio yn y cartref.
www.ewennypottery.com
www.caitlinjenkins.com

Helen Campbell
Gwneuthurwr basgedi
Dysgodd Campbell sut i wneud basgedi helyg pan symudodd i gefn gwlad Gorllewin Cymru ym 1982. Heddiw mae ei gwaith creadigol yn cynnwys sbectrwm o weithgareddau yn gysylltiedig â basgedwaith. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn ymchwilio i dechnolegau crefft traddodiadol a defnyddio deunyddiau cynaliadwy. Mae’n rhannu ei sgiliau a’i syniadau ar gyfer cymwysiadau celf a dylunio cyfoes yn bennaf drwy gyfleoedd i addysgu’n lleol.

Susie Vaughan
Lluniwr basgedi
Mae Vaughan, a ysbrydolir gan gefn gwlad Cymru, yn casglu llawer o’r deunydd y mae’n ei wehyddu o wrychoedd a choedwigoedd ger ei chartref. Nid yw’r gweithiau gwehyddu yn cael eu liwio, ond maent yn arddangos lliw naturiol llawer o wahanol risglau a dail. Mae wedi arddangos ei gwaith mewn nifer o wledydd ac wedi ysgrifennu llyfr ‘Handmade Baskets – from nature’s colourful materials’.
http://www.susievaughan.co.uk/

Mike Davies
Cerfiwr Llwyau Caru
Mae Davies wedi arbenigo mewn cerfio Llwyau Caru Cymreig am dros 35 o flynyddoedd. Cerfir ei Lwyau Caru traddodiadol â llaw o un darn o bren. Comisiynwyd a phrynwyd y darnau godidog hyn gan bobl o bob rhan o’r byd. Ar ôl astudio Celf, Dylunio a Cherflunwaith, mae Davies hefyd yn beintiwr Celf Geltaidd enwog ac yn gerfiwr.
www.mikedavieswelshlovespoons.com

Emyr Davies
Gwarchodwr dodrefn
Mae Davies yn gweithio fel Gwarchodwr Dodrefn ac fel horolegydd yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru yng Nghaerdydd. Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Lincoln, arhosodd Emyr yn Lloegr a gweithiodd yn fasnachol yn y maes cadwraeth ac adfer, gan arbenigo mewn dodrefn o’r 18fed ganrif. Ar ôl dychwelyd i Gymru, ymysg pethau eraill, gweithiodd yn Amgueddfa Sir Ceredigion.

Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru

Beth Thomas yw pennaeth y staff curadurol yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan, un o brif atyniadau i ymwelwyr Cymru i bobl sy’n chwilio am dreftadaeth. Mae Sain Ffagan yn amgueddfa awyr agored sy’n cynnwys dros 40 o adeiladau hanesyddol, yn ogystal â chasgliadau o fywyd gwerin ac archif 50 oed o dystiolaeth lafar wedi ei recordio. Mae cefndir ymchwil Thomas mewn astudiaethau tafodieithol a hanes llafar.
www.museumwales.ac.uk/en/stfagans