Main Content

Ar hyd y Dŵr

Dylan Jones
Rheolwr Casgliadau, Amgueddfa Werin Genedlaethol Sain Ffagan Ganwyd Jones yn Rhuthun, gogledd Cymru ym 1969. Ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn Hanes cafodd waith gyda’r Amgueddfa yn Sain Ffagan. Mae Jones ar hyn o bryd yn gyfrifol am y casgliad Pysgota a Hela, gan geisio cadw cof am y traddodiadau Cymreig hynafol hyn yn fyw.

Keith Jones
Pysgotwr cynaliadwy
Mae Jones yn gweithio i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sefydliad sy’n gwarchod trysorau naturiol ac artiffisial Cymru. Ef oedd y Rheolwr Prosiect ar gyfer Prosiect Pysgodfeydd Porth Meudwy, cynllun i gefnogi parhad pysgota ym Mhorth Meudwy a fydd yn sicrhau dyfodol economaidd ac amgylcheddol a fydd yn cael ei gynnal. Mae bellach yn Ymgynghorydd Amgylcheddol i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cynorthwyo i symud y corff ymlaen tuag at ddyfodol cynaliadwy.

Roger Hall
Adferwr cychod a hwyliwr
Tyfodd Hall i fyny o amgylch cychod a hwyliodd ar ei ben ei hun yn 12 oed. Ar ôl mynd yn ddall ym mlynyddoedd olaf ei arddegau, bu i ddyfalbarhad ac angerdd Hall ei arwain at ddilyn gyrfa mewn gwasanaethu cychod. Ym 1982, dechreuodd gwmni Keelhall’d Boat Services i adfer cychod a strwythurau eraill. Cefnogir Hall gan ei gynorthwyydd, Sian Dorling a’i gi tywys, Ash.

Sian Dorling 
Ganwyd Dorling ym 1959 yn Ysbyty Glowyr Caerffili ac fe fu’n byw mewn pentref bach gwledig. Ar ôl symud i Benarth, tref glan môr Fictoraidd ger Caerdydd, a chyfarfod â Roger Hall, magodd ddiddordeb mewn cychod yn 17 oed. Mae Dorling wedi gweithio gyda Roger am 20 mlynedd fel gweithiwr cymorth ac maent wedi gweithio ar lawer o brosiectau gyda’i gilydd. 

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

David Jenkins yw uwch guradur Amgueddfa Cymru - National Museum Wales. Mae’n ddisgynnydd o linach hir o forwyr o Geredigion ac yn siarad Cymraeg yn rhugl. Mae’n ysgrifennu am hanes arforol a chludiant Cymru ac yn cwblhau bywgraffiad ar hyn o bryd o’r perchennog llongau o Gaerdydd, Syr William Reardon Smith. Mae’n darlledu yn aml ar y teledu a’r radio, yn fwy diweddar ar gyfres BBC2 Coast

Karl Chattington
Gwneuthurwr cwryglau

Thomas Jones
Ffermwr misglod