Main Content

Adeiladu a Thirlunia

Amgueddfa Lechi Genedlaethol

Dafydd Roberts yw Ceidwad Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, Gwynedd. Mae’n rheoli ac yn arwain tîm sy’n dehongli ac yn cyflwyno'r “mwyaf Cymreig o ddiwydiannau Cymru” i dros 120,000 o ymwelwyr yn flynyddol. Derbyniodd yr Amgueddfa wobr genedlaethol ‘Naws am Le’ ac fe’i lleolir yng ngweithdai peirianneg hanesyddol Chwarel Lechi Dinorwig, oedd yn gweithredu tan 1969.

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae Dafydd Davies yn grefftwr yn yr amgueddfa. Dilynodd ei brentisiaeth yn Chwarel enwog y Penrhyn, ac mae’n dangos i ymwelwyr y grefft sy’n ganrifoedd oed o hollti slabiau llechi. Yna, gyda medr enfawr, mae’n dangos sut y caiff dalenni tenau o lechi eu trimio i’r meintiau cywir, i gynhyrchu'r hyn a adwaenir fel y deunydd gorau i’w roi ar doeon yn y byd.
www.museumwales.ac.uk/en/slate     

John Neilson
Llythrennwr
Mae Neilson yn gerfiwr ac yn ddyluniwr llythrennau sy’n gweithio’n bennaf gyda cherrig a llechi. Mae’n byw yng Nghymru, ond astudiodd galigraffeg yn Sefydliad Roehampton yn Llundain. Mae ei gofebau, ei blaciau a’i ddarnau cerfluniol wedi eu gwneud â llaw ar gyfer cleientiaid preifat a chyhoeddus. Mae’n gyn aelod o Banel Ymgynghorol Crefftau Cyngor Celfyddydau Cymru ac yn golygu cylchgrawn Letter Exchange ‘Forum’.

Howard Bowcott
Cerflunydd
Cyn gweithio fel cerflunydd, roedd Bowcott yn beiriannydd sifil ac yn grefftwr oedd yn codi waliau cerrig, ac mae llawer o’i gerfluniau yn dangos agwedd gyfoes ar ddulliau gwaith traddodiadol. Mae cerfluniau Bowcott a wnaed gyda deunyddiau lleol ac sy’n adlewyrchu ei arddull arloesol, yn cael eu harddangos mewn safleoedd cyhoeddus a phreifat y tu mewn a’r tu allan, ac maent yn cyfrannu at bob amgylchedd a thirlun mewn modd unigryw a phwerus.

Angharad Pearce Jones
Artist Gosodiadau
Hyfforddwyd Angharad Pearce Jones i ddechrau mewn Dylunio 3D yng Ngholeg Celf Brighton cyn iddi fynd ymlaen i astudio MA mewn Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Caerdydd. Wedi hynny, mae ei gwaith cyfredol yn perthyn i ddau gategori, celf gosodiadau ar gyfer arddangosfeydd a chelf gyhoeddus wedi ei chomisiynu, a gynhyrchir yn bennaf mewn dur wedi ei ffabrigeiddio. Derbyniodd Wobr Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2005 i ymchwilio i’r effaith a gaiff patrymau gwaith newidiol ar gymdeithas a rolau traddodiadol tybiedig ynglŷn â rhywedd, y mae’n ymdrin â nhw gyda ffraethineb a hiwmor. Yn ogystal ag arddangos ym Mhrydain a thramor, mae Angharad wedi mwynhau cyfnodau o waith gyda rhai o brif sefydliadau’r celfyddydau yng Nghymru, ee Cyngor Celfyddydau Cymru, Cywaith Cymru/Artworks Wales (‘Safle’ bellach), Gwobr Artes Mundi ac mae’n Gadeirydd panel Celfyddydau Gweledol yr Eisteddfod Genedlaethol.

Stuart Fry
Waliwr Cerrig
Mae Fry yn ymwneud â nifer o astudiaethau o dirluniau hanesyddol lleol yn Sir Gaerfyrddin a Sir Frycheiniog. Yn ddiweddar mae wedi cwblhau Gradd Meistr mewn Astudiaethau Tirlun Hanesyddol ym Mhrifysgol Cymru. Ym 1993, dechreuodd ymarfer codi waliau cerrig sych yn amser llawn. Mae Fry yn gadwraethwr ymrwymedig ac yn addysgu llawer o gyrsiau am reoli coedlannau, creu pyllau a dehongli tirlun.

Tim Bevan
Plygwr Gwrych a chadwraethwr Mae Bevan wedi bod yn rheolwr fferm i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru am y 10 mlynedd diwethaf. Yn y cyfnod hwnnw mae’r 400 erw o laswelltir, cnydau a choedlannau wedi eu rheoli i gynnal planhigion a bywyd gwyllt brodorol Cymru. I gydnabod y cynnydd, datganodd Cyngor Cefn Gwlad Cymru y safle yn ‘Warchodfa Natur Genedlaethol’ yn 2008. http://www.gardenofwales.org.uk

Ray Smith
Saer a cherfiwr

Coed Cymru – Tŷ Unnos
System adeiladu fodiwlaidd sydd wedi ennill gwobrau i sicrhau tai fforddiadwy sy’n defnyddio coed Cymreig cynaliadwy. Mae Tŷ Unnos yn hen draddodiad Cymreig sy’n mynd yn ôl i’r ail ganrif ar bymtheg. Credid gan rai pe bai rhywun yn gallu adeiladu tŷ ar dir comin mewn un noson, yna roedd y tir yn perthyn iddynt fel rhydd-ddaliad.
www.coedcymru.org.uk/tyunnos.htm

Selwyn Jones
Saer Maen
Gyda 23 o flynyddoedd o brofiad fel saer maen mae Jones wedi gweithio gyda rhai o enghreifftiau gorau Cymru o bensaernïaeth, gan gynnwys safleoedd yn ymwneud â’r dreftadaeth Gymreig, adeiladau brodorol, obelisgau ac eglwysi cadeiriol, ac mae wedi eu hadfer i’w cyn ogoniant gan ddefnyddio dulliau traddodiadol a deunyddiau lleol. Mae wedi mwynhau gweithio gyda CADW a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac wedi bod yn freintiedig i gael gweithio mewn lleoliadau gwych.

Ty Mawr
Deunyddiau adeiladu ecolegol
Mae Tŷ Mawr Lime Ltd wedi bod yn cynnal cyrsiau arbenigol mewn adeiladu traddodiadol ac ecolegol am dros ddegawd yng Nghanolbarth Cymru.
http://www.lime.org.uk/

Canolfan y Dechnoleg Amgen (CAT)
Arloeswyr gyda chynaliadwyedd, gyda 35 o flynyddoedd o brofiad o gyfleu’r neges am newid hinsawdd a materion yn ymwneud ag ynni, CAT yw prif ganolfan eco Ewrop ac mae’n ganolbwynt yng Nghymru a’r DU ar gyfer adeiladu amgylcheddol a systemau a pholisïau sy’n ymwneud ag ynni adnewyddadwy.
http://www.cat.org.uk/